Mae cofrestru awtomatig yn gyfrifoldeb parhaus - dydy eich dyletswyddau ddim yn gorffen ar ôl dyddiad cychwyn eich dyletswyddau.
Bob tro y byddwch yn talu eich gweithwyr mae'n rhaid ichi fonitro newidiadau gyda'u hoedran a'u henillion i weld a oes angen ichi eu rhoi ar eich cynllun.
Bob tair blynedd mae'n rhaid ichi ailgofrestru er mwyn rhoi unrhyw staff sydd wedi gadael eich cynllun yn ôl i mewn.
Byddwch hefyd angen parhau i dalu i mewn i'ch cynllun pensiwn, rheoli ceisiadau i ymuno neu adael y cynllun a chadw cofnodion.
Bob tro y byddwch yn talu eich gweithwyr, dylech gwblhau’r tasgau canlynol.
Monitro oedran a chyflog eich gweithwyr
Mae rhaid i chi fonitro oedran a chyflog eich gweithwyr (yn cynnwys y rhai sydd newydd ddechrau) er mwyn gweld a oes angen i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn. Mae rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ac ysgrifennu atyn nhw o fewn chwe wythnos o’r diwrnod y maen nhw’n dod yn gymmwys o ran oedran a chyflog.
Os oes gennych chi unrhyw weithwyr sydd…
- rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wlad*
- ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £192 yr wythnos
… mae rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ac mae rhaid i’r ddau ohonoch dalu cyfraniadau ato.
*Os ydych yn ansicr o oedran pensiwn y wlad, defnyddiwch y Cyfrifydd Pensiwn y Wlad.
Trefnu ceisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun
Os oes unrhyw weithiwr yn gofyn am gael gadael cynllun o fewn mis o’i ymrestru, mae angen i chi stopio cymryd arian o’i gyflog a threfnu ad-daliad llawn o’r cyfanswm sydd wedi ei dalu. Fe fydd rhaid gwneud hyn o fewn mis o’r cais am adael.
Fe fydd rhaid i chi gyfrannu at y cynllun pensiwn oni bai fod y gweithiwr:
- rhwng 16 a 74 oed
- ac yn ennill llai na o leiaf £520 y mis neu £120 yr wythnos.
Er mwyn darganfod faint y bydd rhaid i chi ei dalu, dylech holi darparwr eich cynllun pensiwn.
Rheoli ceisiadau i ddadgofrestru o’ch cynllun pensiwn
Cadw cofnod
Mae rhaid i chi gadw cofnod o sut rydych wedi cyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol, yn cynnwys:
- enw a chyfeiriad y bobl rydych yn eu rhoi ar gynllun pensiwn
- cofnodion sy’n dangos pryd y talwyd cyfraniadau i’r cynllun pensiwn
- unrhyw geisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun pensiwn
- rhif cyfeirnod eich cynllun pensiwn neu rif cofrestru
Mae rhaid i chi gadw’r cofnodion yma am chwe blynedd oni bai am geisiadau am gael gadael y cynllun, mae rhaid cadw’r rhain am bedair blynedd.
Parhau i dalu cyfraniadau
Ail-gofrestru
Bob tair blynedd fe fydd rhaid i chi roi gweithwyr yn ôl ar y cynllun os ydyn nhw wedi dewis gadael, ac os ydyn nhw’n bodlonni’r meini prawf er mwyn eu gofrestru. Ail-gofrestru awtomatig ydy hyn. Fe fyddwn yn ysgrifennu atoch cyn eich dyddiad ail-gofrestru awtomatig i egluro ymhellach.
Mwy o wybodaeth am ail-gofrestru.