Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cofrestru awtomatig - cyflogi staff am y tro cyntaf

Darganfod beth sydd yn rhaid ichi ei wneud os ydych chi'n cyflogi staff am y tro cyntaf.

Mae'n bwysig eich bod yn deall beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd, er mwyn ichi gyflawni eich dyletswyddau cofrestru awtomatig mewn pryd. Mae eich dyletswyddau cyfreithiol yn dechrau ar y dyddiad y mae eich aelod cyntaf o staff yn dechrau gweithio. Dyma ydy eich dyddiad dechrau dyletswyddau.

Atebwch y cwestiynau canlynol er mwyn ichi ddarganfod beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd. Hyd yn oed os ydych chi'n meddwl nad oes angen ichi gofrestru eich staff ar gynllun, mi fydd gennych chi ddyletswyddau i'w cyflawni beth bynnag.

Ydych chi'n cyflogi staff am y tro cyntaf?

Atebwch 'ydw' os...

  • ydych chi'n cyflogi o leiaf un person ar hyn o bryd neu,
  • rydych yn ystyried cyflogi rhywun
  • ydy'ch aelod presennol o staff ddim yn ennill digon i orfod talu trethi neu yswiriant gwladol

 

Atebwch 'nac ydw' os...

  • ydych chi'n gyfarwyddwr ar fusnes heb unrhyw fwriad o gyflogi neb
  • rydych chi'n llawrydd neu'n hunan-gyflogedig
  • mae gan eich cwmni nifer o gyfarwyddwyr ond does gan yr un ohonyn nhw gytundeb gwaith
  • Dydy eich busnes ddim yn gweithredu mwyach

Ydych chi wedi defnyddio'r adnodd ar-lein o'r blaen neu yn defnyddio dyfais gwahanol?