Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cam 1 Gwiriwch nad oes gennych chi staff i'w cofrestru ar gynllun pensiwn

 Mae'n rhaid ichi wneud hyn ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau.

Asesu eich staff

Mae'n rhaid ichi gyfrifo faint mae pob aelod o staff yn ei ennill a faint oed ydyn nhw ar eich dyddiad dechrau dyletswyddau. Bydd hyn yn rhoi gwybod ichi beth sydd angen ichi ei wneud ac fe gaiff ei alw yn 'asesu eich staff'. Fe ddylech chi ddefnyddio'r wybodaeth hon i gwblhau eich datganiad cydymffurfio.

Fe fydd eich gweithwyr yn un o’r ddau ddosbarth isod:

Cyfanswm Cyflog Oedran 16 - 21 Oedran 22 - Oedran Pensiwn y Wlad* Oedran Pensiwn y Wlad*
Dros £833 y mis
(Dros £192 y wythnos)
Math 2 Math 1 Math 2
£833 y mis neu lai
(£192 yr wythnos neu lai)
Math 2 Math 2 Math 2

*Oedran Pensiwn y Wlad - Os nad ydych yn siwr beth ydy hwn, defnyddiwch y Gyfrifiannell Pensiwn y Wlad

AUnrhyw weithiwr sydd:

  • rhwng 22 oed ac Oedran Pensiwn y Wlad
  • ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £192 yr wythnos

...bydd yn rhaid ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn a chyfrannu tuag ato.

Mae gennym wybodaeth ychwanegol i’ch helpu deall eich costau. Gallwch hefyd gysylltu â’r darparwr pensiynau am rwy o wybodaeth.

Os oes gennych chi weithwyr nad ydyn nhw yn y categorïau uchod o ran oedran neu gyflog, does dim rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn oni bai eu bod nhw’n gofyn i chi wneud hynny.

Os ydych wedi darganfod nad oes angen i chi roi eich gweithwyr ar gynllun pensiwn, fe fydd arnoch dasgau i’w gwneud er mwyn sicrhau eich bod yn cyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol serch hynny. Bydd rhaid i chi ysgrifennu at eich gweithwyr er mwyn dweud sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw. Fe fydd y cam nesaf yn egluro sut mae gwneud hynny.

Beth sy'n digwydd os nad ydy fy staff yn rhan o gynllun TWE?

Os ydy aelod o'ch staff yn ennill £120 yr wythnos (£520 y mis) neu lai, mae'n bosib na fydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn ichi sefydlu cynllun TWE. Fodd bynnag, fe fydd gennych chi rai dyletswyddau cofrestru awtomatig penodol beth bynnag.

  • Mae'n rhaid ichi ysgrifennu at eich staff i roi gwybod iddyn nhw sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw.
  • Os ydy eich staff yn ymateb yn gofyn ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn, mae'n rhaid ichi sefydlu hyn iddyn nhw ond does dim rhaid ichi gyfrannu at y cynllun.

Pan fyddwch yn dechrau talu dros £120 yr wythnos i aelod o staff, mae'n rhaid ichi sefydlu cynllun TWE gyda Chyllid a Thollau EM. Mae hefyd gofyn ichi asesu eich aelod o staff i weld oes angen eu cofrestru ar gynllun pensiwn y mae gofyn ichi gyfrannu tuag ato hefyd. Unwaith ichi sefydlu'ch cynllun TWE, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn ichi gwblhau datganiad cydymffurfio lle byddwch yn rhoi gwybod inni sut y bu ichi gyflawni eich dyletswyddau, erbyn dyddiad penodol.

Does gen i ddim staff sydd angen eu cofrestru ar gynllun pensiwn ar hyn o bryd

Mae'n rhaid ichi barhau i fonitro oedran ac enillion eich staff pob tro y byddwch chi'n eu talu rhag ofn fod angen ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn yn y dyfodol.

Os nad oes gennych chi staff y mae angen ichi eu cofrestru ar gynllun pensiwn o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau, ewch ymlaen i'r cam nesaf oherwydd mi fydd gennych chi ddyletswyddau cyfreithiol eraill i'w cyflawni.