Dylech adolygu unrhyw gynllun pensiwn presennol er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu’r rheolau ar gyfer cofrestru awtomatig, os ydych yn dymuno ei ddefnyddio at y diben hwnnw.
Hefyd dylech wirio ei fod yn dal i gydymffurfio yn dilyn unrhyw newid yn y gyfraith sy’n perthyn i gynlluniau pensiwn.
Dylech hefyd adolygu’r cynllun i sicrhau ei fod o ansawdd da ac yn bodloni anghenion y cyflogwr, yn ogystal â rhai eich staff.
Pwyntiau allweddol
- Dylech adolygu eich cynllun naill ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol.
- Meddyliwch a yw’r cynllun yn dal yn addas i chi a’ch staff.
Adolygu cynllun DC
Y ffordd orau o adolygu ansawdd cynllun pensiwn presennol â chyfraniadau diffiniedig (DC) yw siarad â’r ymddiriedolwyr neu ddarparwr y cynllun. Dylech ofyn iddyn nhw a yw’n cydymffurfio â’r safonau llywodraethu a rheolaethau taliad gofynnol. Hefyd gallwch chi ofyn am weld datganiad blynyddol cadeirydd y cynllun, a fydd yn datgelu i ba raddau mae’n diwallu’r safonau gofynnol.
Os oes angen ichi ddewis cynllun newydd a bod gennych ddiddordeb mewn cynnal asesiad manylach o ansawdd y cynlluniau a gynigir gan ddarparwyr, ewch i beth i chwilio amdano mewn cynllun pensiwn.
Gallwch ganfod darparwyr cynlluniau pensiwn mewn sawl ffordd, gan gynnwys defnyddio cynghorydd. Dylech ofyn rhai cwestiynau allweddol i ddarparwyr i’ch helpu i wirio bod eu cynllun yn diwallu’r ddeddfwriaeth gofrestru awtomatig a’i fod o ansawdd dda. I gael rhagor o wybodaeth ewch i ddewis cynllun pensiwn.
Er nad yw’n ofyniad cyfreithiol ar gyfer cyflogwyr, efallai byddwch am ystyried trefnu monitro’r cynllun er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn dda. Gweler ein canllaw ar fonitro eich cynllun pensiwn: