Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Apelio i'r tribiwnlys

Os nad ydych yn cytuno a'n penderfyniad ynglyn a'ch hysbysiad cosb (gan gynnwys y penderfyniad i beidio cynnal adolygiad) gallwch apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf y Siambr Reoleiddio Cyffredinol. Mae hwn yn dribiwnlys annibynnol arwahan i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i apelio i'r tribiwnlys, gan gynnwys ffurflen hysbysiad o apêl.

Anghenion

Dim ond os ydych yn anghytuno a phenderfyniad adolygiad yn ymwneud ag un o'r hysbysiadau canlynol y gallwch apelio i'r tribiwnlys:

  • hysbysiad cosb benodedig
  • hysbysiad cosb gynyddol
  • hysbysiad cosb ymddygiad recriwtio gwaharddedig

Rhaid i chi wneud cais i'r tribiwnlys o fewn 28 diwrnod o ddyddiad ein llythyr penderfyniad apêl.

Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig.

Mae'r tribiwnlys wedi datgan nad ydynt am dderbyn apêl os gwnaethoch gais am adolygiad tu hwnt i'r terfyn 28 diwrnod a'n bod wedi penderfynu peidio cynnal un.

Pa fath o benderfyniadau mae'r tribiwnlys wedi eu gwneud hyd yn hyn?

Cyn i chi apelio i'r tribiwnlys dylech edrych ar y penderfyniadau isod i ddeall yr hyn mae'r tribiwnlys yn debygol o'i ystyried:

Os yw cyflogwr yn gofyn am adolygiad wedi 28 diwrnod wedi i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi, mae hyn tu hwnt i'r terfyn amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad.

Mae'r tribiwnlys wedi penderfynu nad oes ganddynt yr awdurdod i wrando apêl ynglŷn â'n penderfyniad i beidio cynnal adolygiad oherwydd i'r cais adolygiad gael ei wneud wedi'r terfyn 28 diwrnod. Mae ceisiadau ar achosion fel hyn wedi cael eu gwrthod.

  • Mae'r tribiwnlys wedi ystyried nifer o achosion lle bu i'r cyflogwr fethu a chwblhau y datganiad cydymffurfio cyn y terfyn amser a osodwyd yn yr hysbysiad cydymffurfio, ond iddynt ei gwblhau pan gawsant hysbysiad cosb benodedig. Mae'r tribiwnlys wedi amddiffyn ein penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad cosb benodedig.
  • Mae'r tribiwnlys hefyd wedi ystyried nifer o achosion ble mai rheswm yr adolygiad oedd bod anawsterau technegol wedi rhwystro'r cyflogwr rhag cwblhau'r datganiad cydymffurfio ar-lein mewn pryd.
    • Mewn un achos penderfynodd y tribiwnlys hyd oed pe bai'r cyflogwr wedi profi anawsterau'n defnyddio'r system ar-lein, gallent fod wedi cwblhau'r datganiad cydymffurfio mewn ffyrdd eraill megis dros y ffon, ac felly gwrthodwyd yr apêl.
    • Mewn achos arall, dywedodd y cyflogwr eu bod wedi cael problemau technegol gyda'r system datganiad cydymffurfio ar-lein. Rydym yn cadw cofnod o bob problem dechnegol o'r fath a doedd dim achos wedi ei gofnodi ar y dyddiad y dywedodd y cyflogwr iddynt geisio cwblhau eu datganiad cydymffurfio ar-lein. Gwrthododd y tribiwnlys yr apêl.
  • Mae'r penderfyniadau a wnaed gan y tribiwnlys hyd yn hyn wedi cadarnhau bod disgwyl i gyflogwyr ymddwyn yn broffesiynol ac ymateb yn brydlon i lythyrau, e-byst a hysbysiadau gan y Rheoleiddiwr Pensiynau.
  • Nid yw diffyg sylw, ymdrech nag astudrwydd gan gyflogwyr unigol neu aelodau o staff yn esgus rhesymol tros fethu cydymffurfio â dyletswyddau mewn pryd.
  • Nid yw'r ffaith i gyflogwr neu asiant cyflogwr wneud camgymeriad didwyll yn esgus resymol hyd yn oed os ddigwyddodd y camgymeriad oherwydd cyflwr meddygol. Os yw amgylchiadau personol y cyflogwr yn golygu na all gwblhau dyletswyddau cyflogwr mwyach, dylai'r cyflogwr benodi rhywun arall.
  • Mae'r tribiwnlys wedi nodi bod y gosb benodedig £400 wedi ei gosod gan gyfraith ac na all y tribiwnlys ostwng swm y ddirwy.
  • Mae'r tribiwnlys hefyd wedi dweud bod y ddirwy yn fyrdwn oherwydd y ffaith mai 'dirwy' ydyw.
  • Mae'r gosb yn adlewyrchu pwysigrwydd cydymffurfio a darpariaeth dyletswydd cyflogwr a pa mor ddifrifol y dylid cymryd methiant i wneud hynny.
  • Os ydych yn bwriadu gwneud cais am adolygiad neu apêl oherwydd na allwch fforddio talu cosb, cysylltwch â ni yn DebtRecovery@tpr.gov.uk neu 0800 169 0325 i drafod eich opsiynau â'n Tîm Adennill Dyledion.