Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Rhoi gwybod am bryderon am eich pensiwn gweithle

 

Dylech ddweud wrthym a oes gennych bryderon am eich cynllun pensiwn gweithle neu os ydych yn amau nad yw'n cael ei redeg yn iawn.

Os yw eich pryder yn ymwneud â'ch cyflogwr, dylech siarad â nhw yn gyntaf. Os ydych yn teimlo na allwch wneud hyn, neu os oes gennych bryderon o hyd ar ôl siarad â hwy, rhowch wybod i ni am y mater.

Rhowch unrhyw wybodaeth a allai ein helpu i ddeall eich pryder, fel slipiau cyflog neu lythyrau gan eich cyflogwr.

Rhowch yr hyn sydd gennych eisoes yn unig i ni. Peidiwch â chwilio am ragor o wybodaeth i gefnogi eich pryder.

Ar-lein

Dywedwch wrthym am:

  • golli taliadau i'ch cynllun pensiwn
  • nad yw eich cyflogwr yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau pensiwn
  • bryderon eraill am eich cynllun pensiwn

Ffôn, e-bost neu bost

Os na allwch roi gwybod am eich pryderon ar-lein, gallwch ddefnyddio ffôn, e-bost neu bost.

Ffoniwch ni ar 0345 600 7060.

Rydym ar agor rhwng 9:00am a 5:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb gynnwys gwyliau cyhoeddus yn Lloegr.

Mae gwasanaeth negeseuon llais 24 awr ar gyfer y rhif hwn.

E-bostiwch ni yn: report@tpr.gov.uk.

Ysgrifennwch atom yn Y Tîm Gwybodaeth, Y Rheoleiddiwr Pensiynau, Telecom House, 125-135 Preston Road, Brighton, BN1 6AF.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl i chi roi gwybod i ni am eich pryder, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i egluro rhywfaint o'r wybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni.

Byddwn yn ymchwilio i'ch pryder os credwn fod achos i wneud hynny. Noder na allwn roi adborth ar ganlyniad ein hasesiad neu ymchwiliad (os cynhelir un) oherwydd rhesymau cyfreithiol.

Diogelu hunaniaeth

Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i ni, deallwn y gallai effeithio ar eich perthynas â'r unigolyn neu'r sefydliad yr ydych yn adrodd amdano, yn enwedig os mai eich cyflogwr chi yw hwn.

Mae'n ddefnyddiol i ni gael eich manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni ofyn i chi am ragor o wybodaeth, ond gallwch ddewis bod yn ddienw wrth roi gwybod i ni am bryderon.

Mewn rhai sefyllfaoedd, pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth inni, efallai y gellir ei ystyried yn chwythu'r chwiban. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd gennych warchodaeth gyfreithiol fel chwythwr chwiban, os codwch bryder dilys yn ddidwyll am gamweddau.

Bydd TPR yn cymryd pob cam rhesymol i gynnal eich cyfrinachedd fel chwythwr chwiban os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Ni fyddwn yn datgelu eich hunaniaeth oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Darllenwch ragor am chwythu'r chwiban i gyflogeion ar GOV.UK.

Diogelu data

I gael gwybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio, ei gadw'n ddiogel a'ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.