Pob tair blynedd bydd gofyn ichi ail-gofrestru staff penodol sydd wedi dadgofrestru o'ch cynllun pensiwn. Y term am hyn ydy ail-gofrestru.
Pe bai gennych chi staff i'w hail-gofrestru ar eich cynllun ai pheidio, mae dal gofyn ichi gwblhau ail-ddatganiad cydymffurfio er mwyn rhoi gwybod inni sut y bu ichi fodloni eich dyletswyddau. Cofiwch, mae'n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i ail-gofrestru a chwblhau ail-ddatganiad cydymffurfio ac os na wnewch chi hynny, mae'n bosib y cewch chi ddirwy.
Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, gall ailgofrestru ac ailddatgan fod yn broses dau gam. Atebwch y cwestiynau isod i ganfod beth sydd yn rhaid ichi ei wneud ac erbyn pryd.