Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

2. Ysgrifennu at staff rydych wedi'u hail gofrestru ar eich cynllun pensiwn

Bydd hefyd gofyn ichi ysgrifennu at bob aelod o staff y mae angen ichi eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn i roi gwybod am yr hyn rydych wedi'i gyflawni. Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu (neu’r dyddiad hwyrach y penderfynoch asesu eich staff arno). Does dim rhaid ichi ysgrifennu at unrhyw staff nad ydych yn eu hail-gofrestru ar eich cynllun pensiwn.

Mae'n bosib y bydd eich darparwr pensiwn yn fodlon gwneud hyn ar eich rhan, neu gallwch ddiwygio ein templedi llythyrau enghreifftiol.

Templed llythyr ar gyfer staff caiff eu gofrestru ar gynllun pensiwn ond sydd ddim yn derbyn gostyngiadau ar dreth WORD 38KB
Defnyddiwch y templed yma os ydy'r aelod o staff rydych wedi eu hail-gofrestru ddim yn derbyn gostyngiadau treth ar eu cyfraniadau oherwydd bod eich cynlluniau pensiwn yn defnyddio cytundeb taliadau net.
Gwelwch mwy am y cynlluniau er mwyn gwybod mwy am ostyngiadau treth.