Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cyfrannu at eich cynllun pensiwn

Bydd angen ichi gyfrannu arian at eich cynllun pensiwn unwaith ichi ymrestru aelod o staff arno a phob tro y byddwch chi'n eu talu.

 

Faint ddylech chi gyfrannu

Mae'n bosib y bydd y cyfanswm y byddwch chi a'ch aelod o staff yn cyfrannu at eich cynllun pensiwn yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun pensiwn rydych chi'n ei ddewis. Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid ichi a'ch staff gyfrannu lleiafswm at y cynllun.

Mae hyn wedi'i osod ar 8% o enillion eich aelod o staff. Mae gofyn ichi, y cyflogwr, gyfrannu o leiaf 3% o hyn ond fe gewch chi ddewis cyfrannu mwy.

Dyddiad Canran lleiafswm y cyfraniad Lleiafswm cyfraniad y cyflogwr
06/04/2019 ymlaen 8% (gan gynnwys cyfraniad 5% gan y staff) 3%

Enillion y Staff

Pan fyddwch yn cyfrifo faint i gyfrannu at gynllun pensiwn, mae angen ichi wybod pa enillion staff i'w cynnwys yn eich cyfrifiad. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gynllun rydych yn ei ddewis.

Os ydych yn talu'r lleiafswm o 8%, bydd angen ichi seilio eich cyfrifiad ar ystod benodol o enillion. Ar gyfer y flwyddyn dreth 2022/23, mae'r ystod rhwng £6,240 a £50,270 y flwyddyn (£520 a £4,189 y mis, neu £120 a £967 yr wythnos). Caiff y ffigyrau hyn eu hadolygu pob blwyddyn gan y Llywodraeth.

Bydd hefyd angen ichi gynnwys y taliadau staff canlynol yn eich cyfrifiad:

  • Tâl
  • Cyflog
  • Comisiwn
  • Tâl Ychwanegol
  • Tâl am oriau ychwanegol
  • Tâl salwch statudol
  • Tâl mamolaeth statudol
  • Tâl statudol tadolaeth arferol neu ychwanegol
  • Tâl mabwysiadu statudol

Y Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfrifiannell cyfraniadau ar-lein er mwyn cyfrifo eich costau ar gyfer pob aelod o staff.

Meddalwedd cyflogres

Mae'n bosib y gall meddalwedd cyflogres, sy'n addas ar gyfer ymrestru awtomatig, gyfrifo cyfraniadau ichi a gofalu fod didyniadau cywir o gyflogau'r staff. I weld eich dewisiadau os nad oes gennych chi feddalwedd cyflogres neu os nad ydy eich meddalwedd cyflogres presennol yn addas ar gyfer ymrestru awtomatig (fel enghraifft os ydych chi'n defnyddio Offer TWE Sylfaenol Cyllid a Thollau EM),ewch i wirio'ch proses cyflogres.

Pryd fydd gofyn ichi dalu'r cyfraniadau

Bydd angen ichi gytuno ar y dyddiadau y byddwch chi'n talu'r cyfraniadau tuag at y cynllun gyda'ch darparwr cynllun.

Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, pan fyddwch yn didynu cyfraniadau o dâl eich staff, bydd angen ichi gyfrannu'r arian tuag at y cynllun pensiwn erbyn yr 22ain (19eg os ydych yn talu gyda siec) o'r mis nesaf.

Mae'n bosib y cewch chi ddirwy gan y Rheoleiddiwr Pensiynau os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad y bu ichi ei gytuno arno gyda'ch darparwr pensiwn.

Taliadau cyntaf ar gyfer ymrestru awtomatig

Mae rheolau arbennig ynghylch y taliad cyntaf o gyfraniadau ar gyfer pob aelod o staff. I'ch helpu gyda rheoli ad-daliadau ar gyfer staff sy'n dymuno dadymrestru o'ch cynllun, mae'n bosib y bydd rhai cynlluniau yn caniatáu ichi dalu'r cyfraniadau am y tri mis cyntaf mewn un taliad ar yr 22ain o'r pedwerydd mis. I wybod mwy, siaradwch gyda'ch darparwr cynllun.

Cyflwyno gwybodaeth i'ch darparwr cynllun pensiwn

Fel rhan o'ch prosesau gwaith arferol, fe ddylech chi gyflwyno'r wybodaeth ganlynol i'ch darparwr cynllun pensiwn:

  • unrhyw newidiadau i enillion aelod neu gyfradd cyfraniadau tuag at y cynllun pensiwn
  • unrhyw geisiadau i ymrestru neu ddadymrestru gyda'r cynllun pensiwn

Mae angen yr wybodaeth yma ar eich darparwr cynllun er mwyn iddyn nhw wirio caiff y cyfraniadau cywir eu cyfrannu at y cynllun ac er mwyn cofnodi unrhyw gyfraniadau ar goll i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.

Bydd angen ichi gytuno pryd a sut fyddwch chi'n cyflwyno'r wybodaeth pan fyddwch yn sefydlu'ch cynllun. Fer enghraifft, mae'n bosib y byddwch yn penderfynu anfon manylion enillion staff yr un amser â byddwch yn talu'r cyfraniadau tuag at y cynllun.

Mae'n bosib y bydd y darparwr cynllun yn eich holi am wybodaeth ychwanegol er mwyn monitro fod y taliadau yn gywir. Bydd angen ichi gyflwyno hyn ymhen cyfnod rhesymol wedi ichi gyflwyno'r cais neu fel y cytunwyd gyda'ch cynllun pensiwn. Bydd methu â thalu cyfraniadau cywir tuag at gynllun yn medru arwain at ddirwyon gan y Rheoleiddiwr.