Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Dioddefwyr troseddau

Os ydych yn ddioddefwr posibl mewn achos troseddol y mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn ymchwilio iddo neu'n ei erlyn, mae hwn yn nodi'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni. Rydych wedi dioddef trosedd os ydych wedi dioddef niwed neu golled economaidd a achoswyd yn uniongyrchol gan drosedd yr ymchwiliwyd iddi'n ffurfiol.

Rydym yn cynnal ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol i ddiogelu cynilwyr pensiwn ac i atal camweddau yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i drin dioddefwyr troseddau'n deg, ag urddas a pharch. Rydym yn cynnal y safonau yn y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau (Cod y Dioddefwyr).

Os gofynnwn i chi weithredu fel tyst ar gyfer treial troseddol posibl, byddwn yn esbonio:

  • y broses ymchwilio ac erlyn
  • sut y gallai effeithio arnoch chi
  • yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni fel tyst yn ein hymchwiliad

Riportio tramgwydd troseddol

Rydym ond yn ymchwilio i droseddau penodol. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef colled oherwydd trosedd sy'n gysylltiedig â'ch pensiwn, gallwch gysylltu â ni.

Yn dilyn y wybodaeth a ddarparwch, efallai y byddwn yn ymchwilio ymhellach ond nid ydym yn ymyrryd ym mhob sefyllfa. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Sylwer na allwn roi adborth ar ganlyniad unrhyw asesiad neu ymchwiliad (os cynhelir un) oherwydd rhesymau cyfreithiol. Ystyrir bod y wybodaeth sydd gennym yn 'wybodaeth gyfyngedig'. Gallai datgelu gwybodaeth, gan gynnwys p'un a yw ymchwiliad yn cael ei gynnal ai peidio, beryglu ei ddilyniant.

Byddwn yn eich cynghori os byddai'n fwy priodol cyfeirio'r mater at yr heddlu neu asiantaeth arall.

Os byddwn yn dod yn ymwybodol o drosedd honedig, efallai y byddwn yn cysylltu â chi fel dioddefwr i gael gwybod a allwch roi mwy o wybodaeth i ni.

Os byddwn yn cysylltu â chi fel dioddefwr, byddwn yn gofyn i chi am rai manylion personol, gan gynnwys manylion cyswllt, fel y gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ystod yr ymchwiliad. Byddwn yn cadw'r manylion hyn yn ddiogel ac yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data.

Cysylltu â ni

Os ydych wedi cysylltu â ni oherwydd eich bod yn credu eich bod wedi dioddef colled sy'n gysylltiedig â'ch pensiwn sy'n deillio o drosedd bosibl, byddwn yn siarad â chi cyn gynted â phosibl. Mae'n debygol y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost diogel.

Os credwn fod gennych wybodaeth berthnasol, efallai y byddwn yn siarad â chi eto yn ein swyddfeydd neu yn eich cartref.

Rhoi datganiad tyst

Efallai y byddwn yn gofyn i chi wneud datganiad tyst. Bydd hyn yn cael ei gymryd gan un o'n hymchwilwyr a fydd yn eich holi am eich profiad a'ch amgylchiadau fel dioddefwr trosedd bosibl. Byddwn yn eich helpu i roi'r hyn yr ydych wedi'i ddweud mewn datganiad ffurfiol, gan ddefnyddio eich geiriau eich hun.

Byddwn yn:

  • esbonio diben y datganiad tyst
  • esbonio'r broses o gymryd datganiad tyst
  • sicrhau eich bod yn darllen ac yn deall eich datganiad drafft yn drylwyr fel ei fod yn adlewyrchu'n gywir yr hyn a ddywedasoch cyn ichi ei lofnodi
  • esbonio goblygiadau llofnodi'r datganiad tyst

Os ydych yn hapus â'r datganiad byddwn yn gofyn i chi ei lofnodi gyda'ch enw. Mae hyn yn dweud eich bod yn cytuno â'r datganiad a'i fod yn gofnod cywir o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud wrth yr ymchwilydd.

Ni ellir newid y datganiad unwaith y bydd wedi'i lofnodi ond gellir cymryd mwy o ddatganiadau os daw gwybodaeth newydd i'r amlwg.

Os oes angen cymorth iaith arnoch i ddehongli neu gyfieithu unrhyw ddogfennau yn ystod y cyfweliad, neu wrth i ni gymryd datganiad tyst, dylech ddweud wrth yr ymchwilydd. Byddwn yn gallu trefnu cymorth i chi.

Rhoi tystiolaeth yn y llys

Os caiff yr achos ei ddwyn i'r llys, efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth yn ystod treial. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag sy'n rhesymol bosibl i chi fel y gallwch fod yn barod ac y gallwch roi gwybod i ni am unrhyw ymrwymiadau a dyddiadau arwyddocaol y mae angen i chi eu hosgoi. Po gyntaf y byddwn yn ymwybodol o'r rhain, yr hawsaf y bydd i'w reoli.

Os bydd y dyddiad y dylch roi tystiolaeth yn newid, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl.

Yn ystod yr achos llys byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd yr achos.

I'ch helpu i baratoi i roi tystiolaeth mewn treial byddwn yn esbonio'r broses o roi tystiolaeth, cynllun ystafell y llys a'r gweithdrefnau dan sylw. Byddwn wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Deallwn y gall rhoi tystiolaeth yn y llys fod yn brofiad llawn straen. Os ydych yn dyst ifanc neu'n agored i niwed, gallwn gymryd camau i helpu i sicrhau eich bod yn rhoi eich tystiolaeth orau.

Gall hyn olygu ein bod yn gwneud cais i'r llys am 'fesurau arbennig'. Gellir cynnig hyn i'r rhai sy'n arbennig o agored i niwed neu wedi'u dychryn. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys rhoi eich tystiolaeth o'r tu allan i ystafell y llys drwy gyswllt fideo byw fel nad oes angen i chi weld, neu gael eich gweld gan, y diffynnydd. Neu efallai y byddwch yn cael sgriniau o amgylch y blwch tystion fel na allwch weld y diffynnydd wrth i chi roi tystiolaeth.

Gallwch ofyn am fesurau arbennig os credwch y byddai'n eich helpu i roi eich tystiolaeth. Yn y pen draw, mae'r llys yn penderfynu a ellir rhoi'r mesurau hyn ar waith.

Hygyrchedd

Os oes gennych anabledd a allai effeithio ar sut rydym yn rhoi gwybodaeth i chi, sut rydych yn cyfathrebu â ni neu unrhyw ofynion a allai effeithio ar eich gallu i roi tystiolaeth yn y llys, rhowch wybod i ni. Gallwn wneud addasiadau rhesymol wrth roi gwybodaeth i chi neu drefnu mynediad i'n safle neu'r llys.

Gallwch ddod o hyd i gyfleusterau llys a manylion cyswllt ar GOV.UK.

Treuliau

Os bydd angen i chi fynd i'r llys i roi tystiolaeth, byddwn yn anfon ffurflen treuliau tyst atoch yn nodi'r cyfraddau ar gyfer hawlio treuliau a'r ffurflen gais gyda rheolau manwl ynghylch hawlio treuliau.

Gallwch hawlio treuliau cyfyngedig ar gyfer:

  • teithio i'r llys ac o'r llys
  • llety (gyda'n cytundeb ymlaen llaw)
  • bwyd a diodydd nad ydynt yn alcoholig (oni bai bod y Gwasanaeth Tystion neu'r llys yn darparu lluniaeth am ddim)

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio costau cyfyngedig ar gyfer:

  • iawndal am golli enillion o fynychu'r llys
  • costau cysylltiedig fel gofal plant

Byddwn yn esbonio'r weithdrefn a gallwn eich helpu i lenwi'r ffurflen.

Gwneud cais am iawndal

Efallai y bydd iawndal ar gael os ydych wedi dioddef colled o ganlyniad i drosedd lle mae diffynnydd wedi'i gollfarnu. Os felly, byddwn yn gwneud cais i'r llys ar eich rhan. Mae'r cais hwn yn cael ei gynnal ar ddiwedd y treial ac unwaith y bydd ymchwiliad ariannol llawn wedi'i gynnal. Gall hyn gymryd peth amser i'w gwblhau.

Gellir gwneud cais am ran, neu'r cyfan, o'r golled sy'n deillio o'r troseddau y mae'r diffynnydd yn cael eu collfarnu ohonynt, gan ystyried ffeithiau penodol yr achos a'r holl amgylchiadau. Y llys sy'n penderfynu'n derfynol a ddylid rhoi iawndal.

Mae'r llys hefyd yn penderfynu ar swm unrhyw iawndal. Mae unrhyw beth y gallech ei dderbyn mewn iawndal yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Mae hyn yn cynnwys y diffynnydd yn bodloni'r gorchymyn iawndal ac a ydych eisoes wedi derbyn iawndal.

Hawl dioddefwyr i ofyn am adolygiad

Lle'r ydym wedi cynnal ymchwiliad troseddol, gall dioddefwyr ofyn am adolygiad pan fyddwn yn penderfynu peidio â dwyn cyhuddiadau neu roi terfyn ar bob achos.

Am fwy o fanylion, gweler hawl i adolygu o dan y Cod Dioddefwyr.

Y weithdrefn gwyno

O dan God y Dioddefwyr, gall dioddefwyr gwyno os ydynt yn credu nad yw eu hawliau wedi'u bodloni.

Gallwch roi adborth i ni neu wneud cwyn. Nid yw hyn yn ymdrin â'r penderfyniadau na'r dyfarniadau a wneir gan y llys.

Am fwy o fanylion ynghylch gwneud cwyn, gweler gwybodaeth i ddioddefwyr troseddau.

Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

Cymorth a chyngor