Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cam 3 Datganiad Cydymffurfio

Dechreuwch eich datganiad cyn gynted â phosib. Mae' n rhaid ichi ei gwblhau ymhen 5 mis o'ch dyddiad dechrau dyletswyddau.

Important

Er ei bod yn bosibl bod rhywun arall yn eich helpu â’ch dyletswyddau ac efallai’n cwblhau’r datganiad drosoch, mae’n gyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi i sicrhau bod eich datganiad wedi ei gwblhau mewn pryd a bod yr wybodaeth ynddo yn gywir. Os nad ydych yn gwneud hynny, mae’n bosib y byddwch yn wynebu dirwy.

Dechrau eich datganiad rŵan

Mae hi’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch i gwblhau eich datganiad cydymffurfio er mwyn rhoi gwybod inni sut y bu ichi gyflawni eich dyletswyddau.

Os ydy’r wybodaeth berthnasol i gyd gennych chi wrth law, dim ond tua chwarter awr y bydd arnoch ei angen er mwyn cwblhau’r datganiad. Defnyddiwch ein rhestr wirio i’ch helpu; mae’n nodi’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen ac o ble y cewch yr wybodaeth honno.

Gallwch ond ddechrau ar eich datganiad cydymffurfio unwaith ichi dderbyn llythyr gennym ni oherwydd bydd angen eich cod llythyr a chyfeirnod TWE arnoch chi.

Beth sy'n digwydd os nad ydy fy staff yn rhan o gynllun TWE?

Os ydy eich aelod o staff yn ennill £118 yr wythnos (£512 y mis) neu lai, mae'n bosib na fydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn ichi sefydlu cynllun TWE. Pan fyddwch yn dechrau talu mwy na £118 yr wythnos i aelod o staff, mae'n rhaid ichi sefydlu cynllun TWE gyda Chyllid a Thollau EM. Unwaith ichi sefydlu'ch cynllun TWE, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn ichi gwblhau datganiad cydymffurfio erbyn dyddiad penodol.

Os oes gennych chi gynllun TWE ac rydych yn dymuno cwblhau eich datganiad cyn inni ysgrifennu atoch, gallwch gysylltu gyda ni i drefnu hynny.

Beth os ydy fy amgylchiadau yn newid?

Bydd hefyd angen ichi fonitro oedran ac enillion eich staff pob tro byddwch chi'n eu talu nhw (gan gynnwys staff newydd) i weld oes angen ichi gofrestru unrhyw un ohonyn nhw ar gynllun pensiwn.

Darllen mwy am eich dyletswyddau parhaus.

Dechrau eich datganiad rŵan