Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cyflogi Staff tymhorol neu staff dros dro

Os ydych chi'n cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, bydd angen ichi eu hasesu'n unigol bob tro fyddwch chi'n eu talu nhw. Mae hyn yn cynnwys staff sy'n gweithio ichi am gwpl o ddiwrnodau, cwpl o wythnosau neu sawl mis.

Mae'n debyg y bydd asesu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn yn fwy o ymdrech ac yn cymryd mwy o amser, oherwydd bydd angen ichi ddwyn i ystyriaeth y canlynol:

  • Mae'n bosib y byddan nhw ond yn gweithio ichi am gyfnodau byr
  • Mae'n bosib y byddan nhw'n cychwyn a gorffen gweithio ichi ar ganol cyfnodau tâl
  • Mae'n bosib y bydd eu cyflog ac oriau yn amrywio

Pam fod angen imi ymrestru ar gynllun pensiwn?

Bydd angen ichi asesu'ch holl staff er mwyn gweld pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun ar sail eu hoedran a'u henillion. Os ydych yn cyflogi aelodau o'ch teulu, bydd angen ichi eu hasesu nhw hefyd.

Bydd yn rhaid ymrestru unrhyw staff, rhwng 22 ac oed pensiwn gwladol ac sy'n ennill dros £192 yr wythnos neu £833 y mis, ar gynllun pensiwn a bydd gofyn ichi gyfrannu tuag ato hefyd.

Defnyddiwch ein hadnodd staff tymhorol a staff dros dro er mwyn gweld pa ddyletswyddau cyfreithiol sy'n berthnasol ichi a beth fydd angen ichi ei wneud.

Adnoddau defnyddiol i'ch helpu wrth asesu'ch staff?

Meddalwedd Cyflogres

Bydd meddu ar feddalwedd cyflogres briodol yn help os oes gennych chi staff tymhorol neu staff dros dro, neu staff lle mae eu henillion ac oriau yn amrywio.

Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd cyflogres sy'n cynnig nodwedd ymrestru awtomatig yn asesu staff pob tro byddan nhw'n cael eu talu, yn cyfrifo'r cyfraniadau pan fo'n briodol ac mae gan rai meddalwedd nodwedd i fedru gohirio hefyd.

Mae'n bwysig ichi ddod o hyd i'r meddalwedd cywir wnaiff ddiwallu'ch anghenion ac fe ddylech chi wirio ei fod yn cyd-fynd gyda systemau eich cynlluniau pensiwn.

Mwy o wybodaeth am y broses cyflogres.

Mae'n bosib y bydd gan gynlluniau pensiwn wasanaethau i'ch helpu chi. Cofiwch wirio beth sydd ar gael oherwydd fe all rhai cynlluniau eich helpu i benderfynu pwy ddylech chi ymrestru ar gynllun ac eich helpu i gyfrifo eich cyfraniadau.

Bydd angen ichi ysgrifennu at eich staff yn unigol yn dweud wrthyn nhw sut y bydd ymrestru awtomatig yn effeithio arnyn nhw. Mae'n bosib y bydd rhai cynlluniau pensiwn yn medru helpu gyda'r llythyrau at eich staff. Os ydych yn cyflogi staff sydd ddim yn Saesneg iaith gyntaf, cofiwch wirio bod modd ichi fanteisio ar lythyrau mewn ieithoedd eraill gan y cynllun.

Mwy o wybodaeth ar ddewis cynllun pensiwn.

Gohirio

Os ydych chi'n ymwybodol y bydd unrhyw un o'ch staff yn gweithio ichi am lai na tri mis, fe allwch chi ohirio'r broses o benderfynu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn. Y term am hyn ydy gohiriad. Bydd angen ichi ysgrifennu at eich staff yn unigol, ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad gohirio, i roi gwybod iddyn nhw am eich cynlluniau ac i roi gwybod iddyn nhw sut mae ymrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw.

Yn ystod cyfnod gohirio unrhyw aelod o staff, ni fydd yn rhaid ichi eu hymrestru ar gynllun pensiwn oni bai eu bod nhw'n gofyn ichi am eu hymrestru ar un.

Mwy o wybodaeth am ohirio.