Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Eich dyletswyddau parhaus

Mae cofrestru awtomatig yn gyfrifoldeb parhaus - dydy eich dyletswyddau ddim yn gorffen ar ôl dyddiad cychwyn eich dyletswyddau.

Crynodeb o'ch dyletswyddau parhaus

  1. Dylid monitro oedrannau ac enillion eich staff bob tro y byddwch yn eu talu i weld a oes angen eu rhoi mewn cynllun pensiwn - gweithio allan pwy i'w roi yn ôl yn eich cynllun pensiwn.
  2. Gwiriwch eich bod yn talu o leiaf y lefelau cyfraniad isaf yn eich cynllun pensiwn - gwneud cyfraniadau i'ch cynllun pensiwn.
  3. Rheoli ceisiadau i ymuno neu adael eich cynllun pensiwn a chadw cofnodion cywir.
  4. Rhaid i chi gadw cofnodion o sut rydych chi wedi cyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol.
  5. Bob tair blynedd mae'n rhaid i chi gyflawnieich dyletswyddau ail-gofrestrua chwblhau eich ail-ddatganiad o gydymffurfio.



Eich dyletswyddau parhaus yn fanylach

1. Monitro oedran a chyflog eich gweithwyr

Mae rhaid i chi fonitro oedran a chyflog eich gweithwyr (yn cynnwys y rhai sydd newydd ddechrau) er mwyn gweld a oes angen i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn. Mae rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ac ysgrifennu atyn nhw o fewn chwe wythnos o’r diwrnod y maen nhw’n dod yn gymmwys o ran oedran a chyflog.

Os oes gennych chi unrhyw weithwyr sydd…

  • rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wlad*
  • ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £192 yr wythnos

… mae rhaid i chi eu rhoi ar gynllun pensiwn ac mae rhaid i’r ddau ohonoch dalu cyfraniadau ato.

*Os ydych yn ansicr o oedran pensiwn y wlad, defnyddiwch y Cyfrifydd Pensiwn y Wlad.

2. Parhau i dalu cyfraniadau

Unwaith ichi sefydlu cynllun pensiwn a chofrestru eich staff cymwys arno, bydd angen ichi barhau gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol. Bydd angen ichi barhau i gyfrannu taliadau dyledus i'r cynllun pob tro byddwch yn cwblhau'r broses cyflogres. Rydym yn monitro'r cyfraniadau caiff eu cyfrannu tuag at bensiynau'r gweithle ac yn medru gweld os na chaiff taliadau dyledus eu cyfrannu at gynllun cofrestru awtomatig eich staff. Byddwn yn gweithredu os byddwch yn methu â chydymffurfio gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol parhaus ac mae'n bosib y bydd disgwyl ichi ôl-ddyddio taliadau heb eu talu.

3. Trefnu ceisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun

Os oes unrhyw weithiwr yn ysgrifennu atoch yn gofyn am gael ymuno â’ch cynllun, fe fydd rhaid i chi ei roi ar y cynllun o fewn mis o’r adeg rydych yn derbyn y cais.

Fe fydd rhaid i chi gyfrannu at y cynllun pensiwn os ydyn nhw:

  • rhwng 16 a 74 oed
  • ac yn ennill llai na o leiaf £520 y mis neu £120 yr wythnos.

Er mwyn darganfod faint y bydd rhaid i chi ei dalu, dylech holi darparwr eich cynllun pensiwn.

Mae hawl gan eich staff ddewis gadael eich cynllun pensiwn ar ôl ichi eu cofrestru arno. Os ydyn nhw’n gofyn am adael ymhen mis o’u cofrestru ar gynllun, caiff hyn ei alw yn ‘optio allan’. Bydd llawer o ddarparwyr pensiwn yn rheoli’r broses ‘optio allan’ ar eich rhan chi. Cysylltwch gyda’ch darparwr os ydych chi’n ansicr. Os ydy unrhyw un o’ch staff yn ‘optio allan’, mae’n rhaid ichi roi’r gorau i ddidynnu arian o’u cyflog a threfnu ad-daliad cyflawn o’r hyn sydd wedi ei dalu hyd yn hyn. Mae’n rhaid ichi wneud hyn ymhen un mis o’u cais.

4. Cadw cofnod

Mae rhaid i chi gadw cofnod o sut rydych wedi cyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol, yn cynnwys:

  • enw a chyfeiriad y bobl rydych yn eu rhoi ar gynllun pensiwn
  • cofnodion sy’n dangos pryd y talwyd cyfraniadau i’r cynllun pensiwn
  • unrhyw geisiadau am gael ymuno â neu adael eich cynllun pensiwn
  • rhif cyfeirnod eich cynllun pensiwn neu rif cofrestru

Mae rhaid i chi gadw’r cofnodion yma am chwe blynedd oni bai am geisiadau am gael gadael y cynllun, mae rhaid cadw’r rhain am bedair blynedd.

5. Ail-gofrestru ac ail-ddatgan

Bob tair blynedd fe fydd rhaid i chi roi gweithwyr yn ôl ar y cynllun os ydyn nhw wedi dewis gadael, ac os ydyn nhw’n bodlonni’r meini prawf er mwyn eu gofrestru. Ail-gofrestru awtomatig ydy hyn. Fe fyddwn yn ysgrifennu atoch cyn eich dyddiad ail-gofrestru awtomatig i egluro ymhellach.

Mwy o wybodaeth am ail-gofrestru ac ail-ddatgan.